Ffurflenni Cais
Yn ystod y cwrs hwn bydd gennych ddealltwriaeth o sut i lenwi ffurflen gais. Byddwch yn adnabod cynllun y ffurflen gais.
Byddwch yn gallu deall pwysigrwydd cynnwys y wybodaeth gywir mewn ffurflen gais. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i roi cyflwyniad hanfodol i lenwi ffurflenni cais.
Erbyn y diwedd byddwch yn gallu llenwi ffurflen gais yn hyderus ac yn annibynnol a deall hanfodion llenwi ffurflenni. Ymdrinnir â phynciau amrywiol yn y cwrs hwn gan gynnwys beth yw ffurflen gais, manylion personol, addysg a hanes gwaith.
Yn ogystal â sut i ateb cwestiynau sy’n seiliedig ar gymhwysedd gan ddefnyddio’r dull STAR, cyfeiriadau a’r pethau i’w gwneud a’r pethau i’w peidio. Gyda dolenni defnyddiol, adnoddau a chwis gwirio gwybodaeth ar y diwedd yn helpu i wella eich dealltwriaeth o’r pwnc.
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus byddwch yn gallu bod yn ddigon hyderus i lenwi ffurflen gais. Amcanion y Cwrs Erbyn diwedd y cwrs hwn: – Byddwch yn gallu adnabod sut i lenwi ffurflen gais. – Byddwch yn teimlo’n fwy hyderus wrth lenwi ffurflen gais. – Byddwch yn dod i wybod beth a ddisgwylir ar ffurflen gais.
Darparwyr Cyrsiau
Grwp Colegau NPTC
- Ar-lein