Gan ddymuno’r gorau i’n dysgwr Lloyd Colling o Ganolbarth Cymru gyda’i enwebiad Gwobr Dysgu Oedolion Ysbrydoli! 2023!
Mae ein dysgwr creadigol, Lloyd Colling o ganolbarth Cymru wedi mynd o nerth i nerth wrth ddatblygu ei sgiliau digidol ac mae wedi sefydlu busnes i hyrwyddo a gwerthu ei waith celf gwych! Mae ein tiwtor, Tracey Hickman yn rhannu gyda ni pam ei bod wedi enwebu Lloyd ar gyfer Gwobr Dysgu Oedolion Ysbrydoli! 2023……
Dywedodd ein tiwtor Tracey, “Dechreuodd Lloyd Colling fynychu fy nghyrsiau sgiliau digidol yn y Trallwng ym mis Tachwedd 2021, ac yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, nid oedd ganddo unrhyw wybodaeth am gyfrifiaduron na llawer o wybodaeth am ddefnyddio ffôn clyfar, gan fod yn well ganddo ddefnyddio pen ysgrifennu a phapur! Ar yr adeg hon roedd Lloyd yn y broses o sefydlu busnes cardiau cyfarch, gan ddefnyddio ei waith celf wedi’i luniadu â llaw, a sylweddolodd y byddai’n rhaid iddo gofleidio technoleg er mwyn sicrhau fod ei fusnes yn llwyddo.
Drwy fynychu cyrsiau Addysg Oedolion Cymru, mae wedi symud ymlaen o fedru troi’r gliniadur ymlaen i greu a dylunio ei lyfrynnau marchnata, ei bosteri a’i galendrau ei hun. Cafodd Lloyd y sgiliau i sefydlu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol er mwyn hyrwyddo ei fusnes. Rwy’n gobeithio helpu Lloyd i ennill sgiliau i fedru defnyddio Microsoft Excel i gynorthwyo gydag agwedd ariannol ei fusnes.
Gydol yr amser mae Lloyd wedi bod yn frwdfrydig ac awyddus ac wedi croesawu unrhyw gyfleoedd dysgu i’w alluogi i hyrwyddo ei fusnes. Er bod Lloyd yn ddyslecsig, nid yw hyn wedi atal ei frwdfrydedd ar awydd i ddal ati i ddysgu.”
Dywed ein dysgwr, Lloyd, “Clywais am y cwrs drwy’r Ganolfan Waith gan fy mod eisiau dechrau fy musnes cardiau cyfarch a defnyddio fy ngwaith celf. Awgrymwyd y byddai’n fuddiol i mi pe bawn yn mynychu cwrs cyfrifiadurol a chefais fy nghyfeirio at gwrs Tracey. Doedd gen i ddim profiad cyfrifiadurol, er bod gennyf frith gof o geisio defnyddio Windows 98 (heb fawr o lwyddiant) – felly, gallwch weld pa mor bell yn ôl oedd hynny!
Roeddwn yn bryderus a nerfus iawn ynghylch mynychu’r cwrs, oherwydd fy nyslecsia – mae hyn wedi fy atal rhag mynychu cyrsiau dros y blynyddoedd. Fodd bynnag, roeddwn yn gwybod bod yn rhaid i mi ddechrau dysgu ac nid oeddwn am siomi fy hun na phobl eraill. Roeddwn yn disgwyl i’r cwrs gael ei redeg mewn ffordd ffurfiol, yn debyg iawn i’r ysgol. Pa mor anghywir oeddwn i! Roedd yr awyrgylch yn hamddenol, yn gyfeillgar, yn gynnes a chroesawgar ac roeddwn yn teimlo fy mod eisiau bod yn rhan ohono.
Drwy fynychu’r cwrs, rwyf wedi gallu cynhyrchu sawl deunydd hysbysebu a marchnata a defnyddio e-byst a chyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo fy musnes. Arweiniodd hyn at wahoddiadau i arddangos fy ngwaith mewn llefydd gwahanol a chwrdd ag artistiaid a chysylltiadau eraill, na fyddwn i byth wedi cael y cyfle i wneud hynny fel arall.
Cyn hyn roeddwn yn ofni technoleg a methu deall yr holl ffwdan yn ei gylch – roeddwn yn fwy na pharod i barhau i ddefnyddio pen ysgrifennu a phapur! Nawr rhyfeddaf yn fawr at yr hyn y mae cyfrifiaduron yn gallu ei wneud ac rwyf wrth fy modd yn mynychu’r cwrs. Nid dysgu’n unig yw’r nod, mae’n ymwneud â chymysgu gyda phobl eraill ar ymdeimlad o berthyn i ‘deulu’ dysgu, lle mae pawb yn rhoi cymorth ac yn cefnogi ei gilydd. Doeddwn i wir ddim yn meddwl y gallai dysgu fod yn gymaint o hwyl! Mae mynychu’r cwrs wedi newid fy mywyd er gwell, ac ni allaf ddiolch digon i Tracey ac Addysg Oedolion Cymru am roi’r cyfle hwn i mi.”
Dymunwn bob lwc i Lloyd gyda’i enwebiad!
Cliciwch yma i weld gwaith Lloyd!