Back to Listing

Mae Powys Castell-nedd Port Talbot Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Ymbaratoi ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion 2024

Rhowch nodyn yn eich calendr am fod Wythnos Addysg Oedolion 2024 ar fin ddechrau.

Mae Powys Castell-nedd Port Talbot Dysgu Oedolion yn y Gymuned wrth ei fodd i gyhoeddi rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion 2024.  Dyma’r dathliad blynyddol o ddysgu gydol oes, wedi’i drefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y mwyaf o’i fath yng Nghymru, sy’n denu mwy na 10,000 o gyfranogwyr y flwyddyn

Mae’r ymgyrch yn anelu at ysbrydoli oedolion ar draws Cymru i ymchwilio i gyfleoedd dysgu newydd, datblygu sgiliau gwerthchweil a dod o hyd i bethau sy’n annwyl atynt a allai wella eu bywydau personol a phroffesiynol. Eleni,  mae Powys Castell-nedd Port Talbot Dysgu Oedolion yn y Gymuned wedi curadu cyfres o ddigwyddiadau hygyrch am ddim i ymgysylltu á dysgwyr ar draws Canolbarth a De Cymru.

Rhaglen Powys:

  • 10 Medi – Libanus, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: Diwrnod blasu sy’n ffocysu ar “Bywyd Gwyllt yn y Gymuned,” yn darparu profiad ymdrochi yn yr amgylchedd naturiol.
  • 12 Medi – Craig Y Nos, Bannau Brycheiniog: Diwrnod cyflwyno “Gweithgareddau Awyr Agored,” yn cynnig cyfle i gyfranogwyr archwilio’r awyr agored braf mewn lleoliad addysgol llawn hwyl.
  • 24 Medi, 10am – 12pm – Coleg Bannau Brycheiniog: Sesiwn “Blas ar Arddwriaeth” a ddyluniwyd ar gyfer y rheiny sy’n ymddiddori mewn garddwriaeth ac ymarferion cynaliadwy.
  • 25 Medi – Coleg Y Drenewydd: Diwrnod Agored unigryw gyda theithiau ar gyfer Gwestai VIP Gwadd, sy’n arddangos cyfleusterau a darpariaeth addysgol y coleg.

Rhaglen Castell-nedd Port Talbot:

  • 11a 12 Medi – Canolfan Siopa Aberafan: Bydd gennym stondinau a gweithgareddau hyrwyddo i ymgysylltu á’r gymuned a rhannu gwybodaeth am ein rhaglenni dysgu oedolion.

Yn ogystal á’r digwyddiadau hyn, rydym wrthi’n hyrwyddo’n darpariaeth gyffredinol yn weithredol a’r prosiect Lluosi ar wefan Wythnos Addysg Oedolion a gwefan Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned ( ALC). Bydd y llwyfannau hyn yn cynnig mynediad hawdd at ystod o adnoddau a gwybodaeth am gyfleoedd dysgu parhaus sydd ar gael trwy Powys Castell-nedd Port Talbot Dysgu Oedolion yn y Gymuned.

Wrth drafod gweithgareddau Wythnos Addysg Oedolion eleni, dywedodd  Kathryn Dunstan, Cyfarwyddwr Partneriaethau Grŵp Colegau NPTC: “Mae Wythnos Addysg Oedolion yn gyfle ffantastig i ddysgu mwy am yr amrywiaeth eang o gyrsiau rhagorol sydd ar gael ar draws Grŵp Colegau NPTC a’i bartneriaid sy’n cynnwys Castell-nedd Port Talbot Dysgu Oedolion yn y Gymuned ynghyd â Phrifysgolion Aberystwyth ac Abertawe.  Dydy hi byth yn rhyw hwyr i ddechrau dysgu ac rydw i’n hynod o falch o’r ystod eang o gyrsiau sydd ar gael i bawb sydd â diddordeb”.

Ymunwch â ni a Darganfod Grym Dysgu Gydol Oes

Mae Wythnos Addysg Oedolion yn gyfle perffaith i oedolion o bob oedran gamu i mewn i’r byd addysg, boed ar gyfer twf personol, datgblygiad gyrfaol, neu er mwyn cwrdd â phobl newydd a cheisio rhywbeth newydd. Rydym yn annog pawb i fanteisio ar y digwyddiadau hyn ac edrychwn ymlaen at eich croesawu.

Am fwy o wybodaeth am ein digwyddiadau a sut i fod yn rhan o’r wythnos, ewch i’n gwefan trwy glicio ar y ddolen isod.

Mae partneriaid yn cynnwys
Dod o hyd i Gwrs Copyright 2025 Adult Learning in the Community. All rights reserved.