Back to Listing
Horticulture lecturer Simon Penn during Adult Learners week

Dosbarthiadau Garddwriaeth Yn Ystod Wythnos Addysg Oedolion

Cynhaliodd y darlithydd garddwriaeth Simon Penn sesiwn addysgiadol a rhyngweithiol fel rhan o ddathliadau Wythnos Addysg Oedolion, i nodi ymgyrch Dysgu Oedolion eleni.  Roedd y sesiwn flasu’n cynnwys taith o amgylch yr adran a’r  cyfleusterau, yn yr ardd a’r ardaloedd dysgu awyr agored a’r cyfleusterau dan do a’r ystafell addysgu a adnewyddwyd yn ddiweddar.  Yn dilyn ymlaen o’r daith a’r sesiwn wybodaeth, mwynhaodd y myfyrwyr gymryd rhan yn y gweithgareddau garddwriaeth “Rhowch Gynnig Arni” a drefnwyd ar y diwrnod, gan roi cyfle ymarferol i ddysgu trwy gymryd rhan.

O ganlyniad i’r sesiwn mae un o’r cyrsiau garddwriaeth rhan amser bellach wedi croesawu pedwar myfyriwr newydd i’r cwrs am eleni ac maent i gyd yn edrych ymlaen at flwyddyn gynhyrchiol o’n blaenau.  

Os hoffech ddarganfod mwy am gyrsiau rhan-amser neu amser llawn sydd ar gael drwy’r Adran Garddwriaeth, cysylltwch â ni neu dewch i’n gweld yn un o’r nosweithiau agored sy’n rhedeg drwy gydol y flwyddyn.

Mae partneriaid yn cynnwys
Dod o hyd i Gwrs Copyright 2025 Adult Learning in the Community. All rights reserved.