Back to Listing

A all Addysg Oedolion Cymru ei drwsio? Gallant!

Mae Addysg Oedolion Cymru yn falch iawn o gyhoeddi Cangen newydd ‘Caffi Trwsio Port Talbot’ mewn partneriaeth â Chaffi Trwsio Cymru. Cyflwynwyd y newyddion ddydd Iau 7 Rhagfyr 2023 mewn digwyddiad Lansio ‘Agoriad Mawreddog’ yng Ngweithdai Heol Addison, Port Talbot i westeion arbennig gan gynnwys aelodau o’r gymuned leol, Maer Castell-nedd Port Talbot, Sioned Williams AS, cynghorwyr lleol, a chynrychiolwyr o Addysg Oedolion Cymru, Caffis Trwsio Cymru ac IUNGO Solutions.

Yn ystod y digwyddiad, cafodd y gwesteion bleser o wrando ar amrywiaeth o gyflwyniadau gan Kathryn Robson (Prif Swyddog Gweithredol Addysg Oedolion Cymru), John Graystone (Cadeirydd Addysgu Oedolion Cymru), John McCrory (Cyfarwyddwr Sefydlol Caffis Trwsio Cymru), Jessica Leigh Jones MBE (Prif Swyddog Gweithredol IUNGO Solutions) a Rhys Clement (Cydlynydd Caffi Trwsio ar gyfer Addysg Oedolion Cymru). Cynhaliwyd y digwyddiad gan Beth John, Rheolwr Rhanbarthol Addysg Oedolion Cymru ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru. Roedd y cyflwyniadau’n amrywio o’r partneriaethau rhwng Addysg Oedolion Cymru, Caffi Trwsio Cymru ac IUNGO Solutions, sut y daeth Caffi Trwsio Port Talbot i fodolaeth, hanes Caffi Trwsio Cymru, a’r dyfodol cyffrous sydd i Gangen ‘Caffi Trwsio Port Talbot’. Roedd hefyd cyfle byr i gyflwyno tystysgrifau, lle derbyniodd y dysgwyr llwyddianus eu tystysgrifau wedi iddynt gwblhau 3 cymhwyster Agored Cymru mewn Defnyddio Offer, Mentimetrau ac Entrepreneuriaeth Gymdeithasol, fel rhan o Gwrs Uwchsgilio, a ddyluniwyd ac a gyflwynwyd yn arbennig fel cwrs pwrpasol i Addysg Oedolion Cymru gan IUNGO Solutions.

Bydd Caffi Trwsio newydd Port Talbot yn agor ei ddrysau i’r cyhoedd yng Ngweithdai Heol Addison  dydd Sadwrn 13 Ionawr rhwng 10.00am a 12.00pm o dan arweiniad Rhys Clement o Addysg Oedolion Cymru, sydd wedi ei benodi’n gadeirydd i Gangen ‘Caffi Trwsio Port Talbot’ yn ddiweddar. Wrth symud ymlaen, bydd y Caffi Trwsio yn parhau i gyfarfod ar yr ail ddydd Sadwrn o bob mis. Bydd ein Atgyweirwyr Gwirfoddol yn ceisio trwsio eich nwyddau cartref trydanol sydd wedi torri fel tegelli, tostwyr, lampau, peiriannau gwnïo ac ati, i emwaith, dillad bach, beiciau, cyngor/cymorth cyfrifiadurol ac eitemau cyffredinol. Nid oes ffi i wneud hyn, ond rydym yn croesawu rhoddion er mwyn cefnogi costau rhedeg y Caffi Trwsio.

Dywed Rhys Clement, “Roedd yn galonogol a chadarnhaol iawn gweld nifer y bobl a ddaeth i lansiad Cangen ‘Caffi Trwsio Port Talbot’, ac roedd y gefnogaeth a’r sylwadau cadarnhaol a ddaeth i’r amlwg yn anhygoel. Mae cymaint o bobl wedi bod yn allweddol yn y gwaith o adeiladu’r Gangen newydd hon. Mae’n anrhydedd ac yn bleser cael bod yn Gadeirydd cyntaf y ‘Gangen’ ac edrychaf ymlaen at weld sut y gallwn ddarparu lle i’r gymuned drwsio eu heitemau toredig. Mae Cangen ‘Caffi Trwsio Port Talbot’ nid yn unig yn lle i drwsio eitemau, mae’n le i ddod a naws cymunedol i Sandfields ac ardal ehangach Port Talbot, gan alluogi’r gymuned leol i ddod at ei gilydd i helpu’r naill a’r llall mewn sawl ffordd. Nod y ‘Gangen’ yw iddi gynnig gwasanaetho’r gymuned er mwyn y gymuned.”

“Mae’r prosiect wedi bod ar y gweill ers bron i flwyddyn ac mae ei weld yn cael ei sefydlu o’r diwedd yn wych. Gobeithiwn fedru gwasanaethu cymuned Sandfields a Phort Talbot am flynyddoedd lawer drwy leihau gwastraff, arbed arian ac yn bwysicaf oll, dod ar gymuned leol ynghyd drwy ei chasglu at ei gilydd. Bydd ein drysau yn agor am y tro cyntaf dydd Sadwrn 13 Ionawr 2024 am 10.00am.  Byddaf  i a’r tîm yn eich disgwyl gyda chroeso cynnes ac wyneb cyfeillgar. Felly beth am alw heibio gydag eitem i’w drwsio, neu dewch i gael sgwrs gyda’r tîm gwirfoddoli er mwyn gweld sut mae’r caffi trwsio’n gweithio? Mae’r tîm cyfan yn edrych ymlaen yn awyddus i ddechrau’r prosiect gwych hwn.”

Mae Cangen ‘Caffi Trwsio Port Talbot’ yn chwilio am Atgyweirwyr Gwirfoddol i estyn cymorth i drwsio a chynghori am yr eitemau sydd wedi torri, ac unigolion i wirfoddoli i groesawu pobl a rhedeg y Caffi Trwsio ar y diwrnod. Drwy estyn cymorth am gwpl o oriau pob mis, byddwch yn gwneud eich rhan i leihau gwastraff, rhannu eich medrau a chryfhau eich cymuned leol.

Ychwanegodd Beth John, “Rydym wrth ein bodd bod y ‘Gangen’ gyntaf i gael ei ffurfio ers sefydlu AOC ym mis Tachwedd 2016, yma yn Rhanbarth y De-orllewin a’r Canolbarth, a’i fod yn mynd i wasanaethu cymaint o bobl yn ardal Port Talbot. Mae’r cynllunio ar gyfer y Caffi Trwsio wedi bod ar y gweill dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae AOC wedi gweithio’n agos gydag IUNGO Solutions a Chaffi Trwsio Cymru, i sicrhau pob cyfle am lwyddiant. Mae IUNGO Solutions wedi creu cwrs pwrpasol gwych ar gyfer pobl sy’n dymuno gwella eu sgiliau er mwyn bod yn Wirfoddolwyr yn y Caffi, ac mae Caffi Trwsio Cymru, fel y sefydliad ymbarél, wedi rhoi cymorth ac arweiniad sylweddol i ni wrth sefydlu’r Caffi. Mae AOC yn gweld llawer o gyfleoedd ar gyfer cydweithio pellach rhyngom a’r ddau sefydliad. Mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o’r gwaith yma, ac fel Rhanbarth, dymunwn y gorau i Rhys Clement yn ei rôl fel Cadeirydd cyntaf y Gangen.”

Mae Cangen ‘Caffi Trwsio Port Talbot’ yn rhan o rwydwaith ehangach o Gaffis Trwsio sy’n cael eu cefnogi gan Gaffi Trwsio Cymru. Mae Caffi Trwsio Cymru yn Gwmni Buddiannau Cymunedol sy’n hwyluso digwyddiadau dros dro, gan gynnig hyfforddiant a chyngor i annog cymunedau sydd am weithio tuag at Economi fwy Cylchol, i greu diwylliant o atgyweirio ac ailddefnyddio, gan fynd i’r afael yn uniongyrchol gyda’r argyfwng cynyddol o dwf anghynaladwy mewn tirlenwi a gwastraff. Mae Caffi Trwsio Cymru yn gweithio gyda chymunedau lleol i ddylanwadu ar safonau nwyddau a pholisi’r llywodraeth, gan gasglu data ar yr eitemau sy’n cael eu hatgyweirio a helpu i lywio penderfyniadau polisi sy’n hyrwyddo byd gwyrddach a mwy cynaliadwy.

Dywedodd John McCrory (Cyfarwyddwr Sefydlol Caffi Trwsio Cymru) ymhellach, “Rydym yn gyffrous iawn am agoriad y Caffi Trwsio Port Talbot newydd, ac wrth ein bodd gyda’r rôl gefnogol mae Addysg Oedolion Cymru yn ei chwarae, a ddylai sicrhau llwyddiant y digwyddiad am flynyddoedd i ddod. Rydym hefyd eisiau dweud diolch yn fawr iawn i Rhys Clement, sydd wedi cymryd y cyfrifoldeb o drefnu’r digwyddiad. Nid yn unig y mae caffis trwsio’n lleihau gwastraff, ond mae trwsio rhywbeth hefyd yn ffordd wych o arbed arian, felly mae’n werth mynd i’r digwyddiad os bydd eitem yn y tŷ yn torri.”

Bydd Cangen ‘Caffi Trwsio Port Talbot’, yn agor i’r cyhoedd dydd Sadwrn 13eg Ionawr 2024 rhwng 10.00am – 12.00pm yn Unedau 10 ac 11, Gweithdai Heol Addison, Port Talbot SA12 6HZ. Os hoffech gymryd rhan neu dderbyn mwy o wybodaeth, e-bostiwch Rhys Clement, Cydgysylltydd a Chyfarwyddwr Caffi Trwsio Port Talbot – repaircafeporttalbot@gmail.com

Mae partneriaid yn cynnwys
Dod o hyd i Gwrs Copyright 2025 Adult Learning in the Community. All rights reserved.