Back to Listing

Addysg Oedolion Cymru yn partneru gyda Gŵyl y Gelli.

Cydweithrediad cyntaf o’i fath rhwng Darparwr Dysgu Oedolion yn y Gymuned yng Nghymru a Gŵyl y Gelli – Partneriaeth gydweithredol o lenyddiaeth a dysgu

Roedd ALW yn falch iawn o fod yn bartner gyda Gŵyl y Gelli yn 2022, i gyflawni eu hymrwymiad cyffredin i ehangu cyfleoedd mynediad i bawb. Mynychodd 17 o ddysgwyr ESOL ALW o bob rhan o Gymru, a’u plant, ddiwrnod llawn hwyl o ddysgu, archwilio a llenyddiaeth, fel gwesteion VIP. Mynychodd dysgwyr a’u plant nifer o sgyrsiau gan awduron oedolion a phlant, a chafodd pawb ginio moethus mewn pabell VIP a thaleb i’w wario ar lyfrau yn Siop Lyfrau yr Ŵyl ar y safle.

Roedd y diwrnod yn ddathliad teimladwy o ddarganfod, ailddarganfod a rhannu profiad, ac roedd y cyfle i amsugno awyrgylch yr ŵyl fyd-enwog yr ydym yn ffodus i’w chael ar garreg ein drws ym Mhowys, wedi gwneud yr ymweliad hwn, un sydd i’w gofio’n sicr.

Mae llawer o ddiolch yn cael ei estyn i Dîm Addysg Gŵyl y Gelli ar ran Addysg Oedolion Cymru, am arddangos i’n dysgwyr y llenyddiaeth orau oll mewn lleoliad arbennig iawn.

Mae partneriaid yn cynnwys
Dod o hyd i Gwrs Copyright 2025 Adult Learning in the Community. All rights reserved.