Cyflwyniad i Gosod Brics (Rhan-Amser)
Mae’r cwrs byr dwys hwn yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i’r sgiliau a’r technegau sy’n gysylltiedig â chrefft gosod brics. Cyflwynir y cwrs gan ddefnyddio dull ymarferol mewn gweithdai eang o dan gyfarwyddyd staff gosod brics cymwys a phrofiadol. Mae’r cwrs hwn yn darparu ffordd ardderchog a chyfleus i ddechreuwyr ddatblygu sgiliau gosod brics ac yn cynnig cyfle i symud ymlaen i hyfforddiant a chymwysterau pellach. Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â’r pynciau canlynol: – Cymysgu morter â llaw a pheiriant – Technegau gosod brics – Uniadu a phwyntio – waliau brics
Darparwyr Cyrsiau
Grwp Colegau NPTC
- Coleg Castell-nedd