Yn ōl i'r Cyrsiau

Diploma Lefel 3 mewn Hyfforddiant Personol (Rhan-Amser)

Mae Diploma Lefel 3 IQ Actif mewn Hyfforddiant Personol yn ddelfrydol os ydych am ddilyn gyrfa yn y sector iechyd a ffitrwydd a chael swydd fel hyfforddwr personol. Bydd yn rhoi cyfuniad o wybodaeth a sgiliau i chi ragnodi, cynllunio a chyflwyno rhaglenni ymarfer corff diogel ac effeithiol a sesiynau hyfforddi personol i amrywiaeth o gleientiaid. Trwy ennill y cymhwyster hwn byddwch yn cael eich cydnabod fel hyfforddwr personol cymwys. Byddwch hefyd yn gallu cael mynediad i’r Gofrestr o Weithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol (REPs) ar Lefel 3. Nod y cymhwyster yw adeiladu ar eich gwybodaeth a’ch sgiliau presennol mewn hyfforddi campfa a datblygu’r sgiliau hyn ymhellach i ddilyn gyrfa mewn hyfforddiant personol.

Darparwyr Cyrsiau

Mae partneriaid yn cynnwys
Dod o hyd i Gwrs Copyright 2025 Adult Learning in the Community. All rights reserved.