Dyfarniad Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf Pediatrig Brys (Rhan-Amser)
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n gyfrifol am ofalu am blant a babanod gan ddarparu’r wybodaeth a’r cymhwysedd ymarferol i ddelio ag ystod o sefyllfaoedd cymorth cyntaf pediatrig. Mae’r cymhwyster hwn yn bodloni gofynion Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar.
Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â’r pynciau canlynol: – Deall rôl a chyfrifoldebau’r swyddog cymorth cyntaf pediatrig – Gallu asesu sefyllfa o argyfwng yn ddiogel – Gallu darparu cymorth cyntaf i faban a phlentyn nad yw’n ymateb – Gallu darparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn sy’n tagu – Gallu rhoi cymorth cyntaf i faban a phlentyn â gwaedu allanol – Gwybod sut i roi cymorth cyntaf i faban neu blentyn sy’n dioddef o sioc – Gwybod sut i ddarparu cymorth cyntaf i faban neu blentyn â brathiadau, pigiadau a mân anafiadau
Darparwyr Cyrsiau
Grwp Colegau NPTC
- Academi Chwaraeon Llandarcy
- Canolfan Adeiladwaith Abertawe
- Canolfan Adeiladwaith Maesteg
- Coleg Afan
- Coleg Bannau Brycheiniog
- Coleg Castell-nedd
- Coleg Pontardawe
- Coleg Y Drenewydd