TGAU Bioleg (Rhan-amser)

Mae astudio TGAU Bioleg yn gosod y sylfeini ar gyfer deall organebau byw. Mae’r cwrs TGAU Bioleg yn rhoi cyfle i fyfyrwyr sy’n dymuno gwella eu gwybodaeth fiolegol, hyder a sgiliau ymarferol sy’n hanfodol ar gyfer llawer o yrfaoedd. Mae gan fyfyrwyr lawer o resymau dros ddilyn y cwrs hwn, gan gynnwys hyrwyddo eu haddysg, cyfleoedd cyflogaeth neu geisio cefnogi plant yn yr ysgol. Mae dwy haen mynediad ar gyfer y cymhwyster hwn: Haen Uwch: Graddau A* – D Haen Sylfaenol: Graddau C – G Mae’r haen uwch a gyflwynir yn y Coleg yn galluogi myfyrwyr i ennill gradd B TGAU, sydd bellach yn ofynnol ar gyfer llawer o addysgu a graddau nyrsio. Enghreifftiau o’r prif bynciau a drafodir yn y cwrs hwn yw: Systemau’r Corff: Planhigion Imiwnoleg Cardiofasgwlaidd, Arennol ac Anadlol: Resbiradaeth a Ffotosynthesis Cynhelir y cwrs yng Ngholeg Castell-nedd ar ddydd Llun, 4.30pm-7pm. Bydd y dosbarthiadau’n cychwyn yr wythnos sy’n dechrau 11 Medi 2023. I gofrestru cliciwch ar ‘COFRESTRU NAWR’ ar yr ochr dde o dan y Coleg o’ch dewis.

Darparwyr Cyrsiau

Mae partneriaid yn cynnwys
Dod o hyd i Gwrs Copyright 2025 Adult Learning in the Community. All rights reserved.