Tystysgrif VTCT Lefel 4 mewn Therapi Tylino Chwaraeon (Rhan-Amser)
Mae’r cwrs yn adeiladu ar sgiliau a gyflwynwyd ar y Diploma Lefel 3 mewn Therapi Tylino Chwaraeon ac yn datblygu technegau tylino chwaraeon uwch, gan gynnwys rhyddhau meinwe meddal, pwyntiau sbarduno, techneg niwrogyhyrol, tylino meinwe gyswllt a thechneg egni cyhyrau. Bydd y cwrs hefyd yn rhoi sgiliau asesu clinigol cymhleth i ddysgwyr, gan gwmpasu prif gymalau’r corff. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu cael yswiriant ac ymarfer gyda chlwb chwaraeon neu weithio gyda chleientiaid preifat. Mae gan diwtor y cwrs flynyddoedd lawer o brofiad ym maes therapi chwaraeon gan gynnwys Gemau Olympaidd Llundain a Gemau’r Gymanwlad, tra’n rhedeg clinig arbenigol llwyddiannus.
Darparwyr Cyrsiau
Grwp Colegau NPTC
- Coleg Afan