Yn ddiweddar, mae Jayne Griffiths MBE, ein tiwtor ‘Gosod Blodau’ yn Ne Orllewin a Chanolbarth Cymru, wedi bod yn brysur iawn yn rhannu ei doniau a’i sgiliau ym maes blodeuwriaeth ag amrywiaeth o grwpiau cymunedol. Yn ystod mis Chwefror, fe wnaeth Jayne redeg cyrsiau yng Nghanolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crughywel ac yn Hwb Dysgu Addysg Oedolion Cymru ym Mhort Talbot. Fe wnaeth y merched a fynychodd y sesiynau gyfranogi’n eiddgar yn yr hyfforddiant a ddarparwyd gan Jane ac roeddent wrth eu bodd â’u sgiliau gosod blodau newydd. Er mawr lawenydd iddynt, cawsant fynd â’u creadigaethau prydferth adref gyda hwy a dywedodd pob un y buasent wrth eu bodd yn cael cyfle i ddychwelyd i gyfranogi mewn rhagor o gyrsiau gosod blodau.
Yn ogystal â dysgu sgiliau newydd, fe wnaeth nifer ohonynt gynnig adborth ynghylch dylanwad llesol y cyrsiau ar eu hiechyd meddwl a’u lles:
“Fe wnaeth fy nhynnu i allan o’r tŷ i gwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd. Hynod o ddifyr – fe hoffwn i wneud rhagor!”
“”Cwrs ysbrydolgar a rhagorol!”
“Hyfforddiant gwych”
Mae galw mawr am gyrsiau Jayne ym mis Mawrth, a bydd hi’n parhau i grwydro i redeg rhagor o sesiynau gosod blodau ar gyfer MIND yn Aberystwyth ac Aberhonddu. Yn ystod un o’r sesiynau, bydd y grŵp hyd yn oed yn cael dysgu sut i osod blodau yn greadigol mewn cwpan a soser! Mae Jayne yn cael hwyl aruthrol wrth addysgu grwpiau gwahanol, a dywedodd:
“Mae’n bleser gallu rhannu fy sgiliau â phobl eraill a’u gweld yn mwynhau pan fyddant hwy eu hunain yn gallu gosod blodau”
Hoffem longyfarch yr holl ddysgwyr am greu campweithiau mor hyfryd!
Os oes gennych chi ddiddordeb cyfranogi mewn sesiwn blas ar osod blodau yn rhad ac am ddim gyda Jayne, a dysgu sut i greu plethdorch rhubanau, blodyn i’w wisgo mewn llabed a thusw, bydd hi yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr yn Llandrindod ar 16eg a 30ain Mawrth.
Yn ychwanegol, os hoffech i Jayne redeg cyrsiau gosod blodau creadigol yn eich ardal, e-bostiwch info@adultlearning.wales
Cliciwch yma i weld mwy o luniau ar ein tudalen Facebook.
Cliciwch yma i weld manylion ein cyrsiau creadigol.