Back to Listing

Cyfarfu ein dysgwyr ar-lein gyda’i gilydd am y tro cyntaf yng Nghastell Powis

Cyfarfu dysgwyr o bob rhan o Gymru fu’n astudio cyrsiau tecstilau ar-lein gyda’u tiwtor, Maria Parry-Jones o Addysg Oedolion Cymru (AOC) am y tro cyntaf wyneb yn wyneb, fis Awst eleni yn amgylchedd prydferth Castell Powis. Trefnwyd y daith addysgol gan AOC er mwyn caniatáu i’r dysgwyr weld y cwiltiau bendigedig, y clustogau gwaith blaen nodwydd a’r gweuwaith a ddyluniwyd ac a grëwyd gan Kaffe Fassett*. Roeddynt mewn arddangosfa yng Nghastell Powis, a gynhelir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Gofynnwyd i’r dysgwyr wisgo neu ddod a darn o waith roeddynt wedi’i greu yn y dosbarthiadau, a braf oedd gweld yr eitemau, yn amrywio o fagiau i siacedi wedi’u cwiltio, a hyd yn oed, fel y gwelir yn y lluniau, ffrog borffor. Yn ymuno gyda’r dysgwyr roedd eu tiwtor Maria, yn gwisgo siaced wedi’i chwiltio yn yr arddull Japaneaidd, a ddyluniwyd ganddi a’i gwneud fel un o brosiectau’r dosbarth. Trwy gyd-ddigwyddiad, gwnaed sgwariau’r siaced drwy ddefnyddio ffabrigau o gasgliad Kaffe Fassett.

Aelodau cyrsiau ar-lein Maria Parry-Jones oedd y rhai a fynychodd y digwyddiad. Mae’r ystod o gyrsiau’n cynnwys clytwaith a chwiltio, brodwaith llaw, gwau a chrosio, ffeltio nodwydd, a thecstilau wedi uwchgylchu. Ers iddynt ddechrau yn ystod pandemig Covid-19, mae’r dysgwyr wedi gwneud llawer o ddarnau tecstilau creadigol, gan gynnwys eitemau wedi’u cwiltio sydd wedi eu hysbrydoli gan arddangosfa o weithiau. Roedd yn ddigwyddiad emosiynol i’r dysgwyr a Maria, gan drwy Zoom yn unig roeddynt wedi cyfarfod ers dros 3 blynedd. Roedd cyfarfod mewn person yn ddigwyddiad llawen iddynt, ac wedi caniatáu’r dysgwyr fedru treulio ychydig o amser gwerthfawr yng nghwmni ei gilydd.

Cafodd pawb a fynychodd amser pleserus iawn, a hoffem ddiolch i Sue Whitehouse, sy’n gweithio fel gwirfoddolwr yng Nghastell Powis ac sydd hefyd yn mynychu’r dosbarth clytwaith, am roi sgwrs am y castell.

Un o’r dysgwyr a fynychodd y diwrnod yng Nghastell Powis yw Vanda, sy’n rhoi cipolwg gwych am ddigwyddiadau’r diwrnod:

“Pan awgrymwyd am y tro cyntaf am y posibilrwydd i ni’r dysgwyr gyfarfod am ddiwrnod, teimlwyd fod hyn yn ‘rhywbeth amhosibl’ gan fod pawb wedi eu gwasgaru ar draws Gogledd, Canolbarth a De Cymru. Ond oherwydd ein penderfyniad, nid oeddem am roi’r gorau i’r syniad. Chwe mis yn ddiweddarach, gyda chymorth ariannol a logistaidd AOC, gwireddwyd ein dyhead o’r diwedd ar ddydd Mercher 30ain Awst 2023, pan gyfarfu pawb am y tro cyntaf gyda’n gilydd yng Nghastell Powis, ar gyfer Arddangosfa Cwiltiau Kaffe Fassett.

Wedi tua 3 blynedd ar Zoom, roedd cwrdd â Maria a fy nghyd-ddysgwyr yn swrrealaidd iawn ac fe amlygwyd sut roeddem yn edrych yn wahanol oddi ar y sgrin a’r ddyfais drydanol. I mi hefyd, roedd yn braf cwrdd â dysgwyr o ddosbarthiadau eraill Maria, nad wyf wedi’u gweld o’r blaen. Cefais gyfle i gyfarfod a rhywun oedd yn byw dim ond 20 munud i ffwrdd oddi wrthyf, ac roeddem yn cydnabod ei fod yn deimlad rhyfedd. Wrth i ni ddechrau symud o’n man ymgynnull, buan iawn y chwalwyd rhwystrau wrth i ni gerdded am y tro cyntaf gyda’n gilydd tuag at fynedfa castell Powis, a gan ei fod yn benthyg ei hun … fe fynnais… gymryd mantais o’r cyfle i dynnu llun pawb. Wedi’r cyfan, y digwyddiad yma fyddai cyfarfod ‘cyntaf’ i ddysgwyr AOC a dylid ei gofnodi, gan obeithio y bydd mwy o gyfleoedd i ddod yn y dyfodol.

Roedd cerdded  tu mewn i’r castell ar drywydd yr arddangosfa cwiltiau, yn brofiad newydd i mi, gan nad oeddwn erioed wedi bod i arddangosfa debyg o’r blaen. Felly, roedd profi hyn gyda Maria a’r dysgwyr eraill yn ei wneud yn arbennig iawn, yn enwedig mewn un ystafell lle’r oedd cwiltiau niferus yn cael eu harddangos, gallem mewn gwirionedd gyffwrdd a rhannu ein meddyliau gyda’n gilydd. Roedd technegau yn y cwiltiau roeddem eisoes wedi eu dysgu, neu yn gwybod amdanynt, ond hefyd rhai nas gwelwyd o’r blaen. Roedd Tie Quilting yn ddull i ychwanegu strwythur ar gyfer un cwilt, a wnaeth gadarnhau wrth i mi edrych ar y darn gorffenedig, ‘na fyddai’n gweithio i mi’ gyda’m gweithiau, gan nad oedd y gorffeniad yn ddigon cadarn. Yr hyn a wnaeth sefyll allan i mi oedd, nid oedd rhai esiamplau wedi’u ‘gwnïo’n berffaith’ ar gyfer yr arddangosfa, ond roedd hynny’n iawn gan fod gan bob clytwaith a chwiltwyr eu harddull a’u perffeithiaeth eu hunain, sydd yn gwneud pob darn yn unigryw.

Wrth gerdded o amgylch y tiroedd hardd a thaclus, a chael coffi wedyn, cafwyd cyfle i eistedd a myfyrio ar y diwrnod gyda’n gilydd. Yn gyntaf oll, roedd wedi bod yn ddiwrnod bendigedig a chael cyfarfod wyneb yn wyneb. Trafodwyd syniadau ac awgrymiadau ar gyfer prosiectau ar gyfer y dyfodol, a gallem weld fod Maria yn meddwl yn dawel ac yn ddwys ar y pryd am syniadau ar gyfer prosiectau’r dyfodol, ac am ei chynlluniau ar ein cyfer y tymor nesaf.

Erbyn iddi ddod yn amser i ffarwelio roedd ein hysbryd wedi codi ar ôl y diwrnod gwych, ac roedd hyd yn oed cwlwm agosach wedi ei ffurfio rhyngom. Cafwyd cofleidiadau ar ddiwedd y dydd o’i gymharu gyda’r bore pan wnaethom ymgynnull, ychydig bach yn nerfus neu’n swil gan fynegi geiriau o gyfarch megis ‘helo, sut ydych chi, braf cael cwrdd o’r diwedd’.

Dair wythnos yn ddiweddarach ac wrth ysgrifennu hwn, rydym eisoes yn sôn am gyfarfod y flwyddyn nesaf. Mae gan Maria leoliad mewn golwg yn barod, nid fel ymwelwyr ond yn hytrach fel arddangoswyr. Dywedais wrthych fod ei meddwl yn gweithio yng Nghastell Powis! Mae syniadau ac angerdd Maria fel petai’n rhwbio i ffwrdd ar ei dysgwyr, ac felly bydd rhaid i Cecilia a’r tîm cadw golwg arnom, gan y bydd ein dosbarth Clytwaith a Chwiltio prynhawn dydd Mawrth yn ymateb i’r her ac yn gweithredu wrth i mi ysgrifennu hwn.

Ymddiheuriadau am yr adroddiad hirfaith, ond teimlwn na fyddai ychydig linellau o adborth yn ddigon i fynegi fy mhrofiad yn llawn yn niwrnod cyntaf ‘Cyfarfod a Chyfarch’ AOC yng  Nghastell Powis.

Diolch Cecilia Forsythe (CDC De-orllewin a’r Canolbarth) a’ch tîm, ac i Jordan McKavett (Cynorthwyydd Cymorth TG) sy’n gweithio’n ddiflino ac yn dawel yn y cefndir, heb gydnabyddiaeth yn aml. Diolch enfawr i’n hathrawes Maria am rannu eich gwybodaeth helaeth, eich croeso, caredigrwydd a chefnogaeth yn ystod ein cwrs. Pan ddaw ein galwad Zoom i ben, byddwn wedi dod i ffwrdd wedi dysgu o leiaf un peth newydd, gyda theimladau o falchder am yr hyn rydym wedi’i orchfygu a’i gyflawni yn ystod y tair awr. Mae’r gair AMHRISIADWY yn disgrifio’r oll i mi.

Yn olaf, hoffwn ddatgan fy ngwerthfawrogiad i AOC fel sefydliad cyfan am sicrhau cyllid llywodraeth leol i helpu i ariannu’r cyrsiau. Heb os, maent wedi bod yn gymorth i gymaint o ddysgwyr gyda’u lles emosiynol yn y gorffennol ac i’r dyfodol gobeithio. Nid oes angen meddyginiaeth fel tabledi pan fydd AOC yn cynnig ei ffurf arbennig o therapi iachaol i’w dysgwyr. Diolch i chi unwaith eto.”

Mae’r cyrsiau tecstilau ar-lein a arweinir gan y tiwtor Maria Parry-Jones ymhlith y llu o gyrsiau wyneb yn wyneb ac ar-lein a gynigir gan Addysg Oedolion Cymru ledled Cymru. Os yw’r stori hon wedi eich ysbrydoli i gychwyn ar eich taith ddysgu, beth am ddarganfod mwy am yr ystod eang o gyrsiau sydd ar gael gan AOC?

Cliciwch ar y ddolen yma

Mae Kaffe Fassett, a aned yn San Francisco, yn ddylunydd tecstilau rhyngwladol o fri ac mae ei chwiltiau llachar a gwefreiddiol, ei chlustogau a’i ddillad wedi’u gwau wedi’u harddangos ledled y byd.

Mae partneriaid yn cynnwys
Dod o hyd i Gwrs Copyright 2025 Adult Learning in the Community. All rights reserved.