Dathlu lansiad ein cyfleusterau gwaith saer ar eu newydd wedd yn ‘Hwb Dysgu Port Talbot’!
Ddoe, 7 Hydref 2021, fe wnaethom ni ddathlu lansiad ein Hwb Dysgu ar newydd wedd ym Mhort Talbot. Yn flaenorol, cyfeirid ato fel ‘Uned 10[‘, yn Heol Addison, Sandfields, Port Talbot.
Mynychwyd y digwyddiad gan 25 o aelodau ein Cangen ac roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys yr Aelod o Senedd Cymru David Rees, ein tiwtoriaid a’n staff sy’n helpu i gefnogi’r Hwb Dysgu. Cafwyd areithiau gan y tiwtor Steve David, Cadeirydd y Cyngor John Graystone, ein Prif Weithredwr Kathryn Robson, a’r Rheolwr yn Rhanbarth De Orllewin a Chanolbarth Cymru, Beth John.
Yn ystod y digwyddiad, cafodd gwesteion gyfle i gael cipolwg ar y cyfleusterau gwaith saer helaeth sydd ar gael yno a dysgu rhagor am amcanion dysgu’r Hwb. I egluro hyn ymhellach, cynhyrchwyd ffilm fer ynghylch y cyfleusterau. Rhoddwyd diolch arbennig i’r staff a’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio mor galed i redeg yr Hwb Dysgu.
Ar un olwg, mae Hwb Dysgu Port Talbot yn olynydd i’r Uned 19 adnabyddus a sefydlwyd yn 2002 gan New Sandfields Aberafan (NSA) trwy bartneriaeth â Chymdeithas Addysg y Gweithwyr (CAG – un o’r sefydliadau a sylfaenodd Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales).
Fe wnaeth NSA ddarparu cyllid a deunyddiau ar gyfer yr Uned, ac roedd CAG yn gyfrifol am addysgu a hyfforddi, achredu a chefnogi dysgwyr. Yr amcan oedd darparu cyfleuster hyfforddiant gweithdy yn canolbwyntio ar sgiliau gwaith saer. Ond roedd hefyd yn llawer iawn mwy na hynny. Y diben pennaf oedd helpu i fagu hyder a hunan-barch y bobl a fyddai’n defnyddio’r uned. Iddynt hwy, byddai’n gyfle i gael profiad cysylltiedig â gwaith, datblygu sgiliau gwaith tîm, a chanfod cyflogaeth maes o law. Roedd yn ymwneud â datblygiad personol a darparu rhaglen addysgol eang da â phwyslais ar gefnogi dysgwyr.
O fis Gorffennaf 2009 ymlaen, ni allai NSA barhau i ariannu’r uned oherwydd roedd eu harian o Ewrop wedi dod i ben. Roedd CAG yn benderfynol o barhau â’r ddarpariaeth, a thrwy gyfrwng trafodaethau â’r holl randdeiliaid, penderfynwyd mai’r opsiwn o barhau â’r Uned ei hun oedd y dewis gorau. Cafodd Uned 10 fel y’i gelwid bryd hynny ei lansio’n ffurfiol fel un o brosiectau CAG ym Medi 2009. Ers hynny, mae wedi bod yn brosiect gan CAG, ac yn dilyn hynny, gan Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales. Fe wnaethom ni lwyddo i barhau â’r bartneriaeth ag Ysgol Gyfun Sandields, gan sefydlu partneriaeth newydd â Chanolfan Uwchradd Tŷ Hafan. Roedd hyn yn darparu hyfforddiant gwaith saer a chefnogaeth ynghylch sgiliau sylfaenol i bobl ifanc yn ystod eu blwyddyn olaf nad oedd yn ymgysylltu’n llawn ag amgylchedd yr ysgol. Bu hwn yn brofiad cadarnhaol i bawb oedd dan sylw. Fe wnaeth ein Tîm Dysgu yn y Gweithle hefyd ddatblygu cyrsiau mewn partneriaeth â chyflogwyr ac undebau llafur.
Mae Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales wedi parhau â’i ddarpariaeth Addysg Oedolion yn y Gymuned. Mae hyn wedi darparu hyfforddiant gwaith saer a chefnogaeth ynghylch sgiliau sylfaenol (datblygiad personol) i bobl sy’n ddi-waith ers tro byd, sydd ag anawsterau o ran llwyrddibyniaeth neu iechyd meddwl, neu rai y mae arnynt angen cyfle a chatalydd i ailafael mewn addysg. Cyflawnir hyn trwy bartneriaeth â sawl sefydliad yng Nghastell-nedd a Phort Talbot sy’n cyfeirio cleientiaid a dysgwyr i’r Hwb.
Mae gan y cyfleusterau yn yr Hwb Dysgu hanes cyfoethog o waith gwirfoddol yn cael ei gynnal yno ers blynyddoedd lawer, a’i brif ddiben yw helpu i fagu hyder a hunan-barch y bobl sy’n defnyddio’r uned. Mae’r Hwb yn gyfle i gael profiad cysylltiedig â gwaith, datblygu sgiliau gwaith tîm, a chanfod cyflogaeth.
Un o’n gwirfoddolwyr yn yr Hwb Dysgu ers tro byd yw Derek Edwards. Gadawodd Derek yr ysgol uwchradd heb unrhyw gymwysterau, ac roedd wedi cael trafferth trwy gydol ei addysg â darllen, ysgrifennu a mathemateg. Hyfforddodd fel Saer ac Asiedydd, a mynd i’r coleg technegol i ennill y cymwysterau perthnasol.
Oherwydd yr anawsterau a gafodd Derek â llythrennedd a rhifedd, cafodd flwyddyn ychwanegol, neu “blwyddyn ar ei hôl hi” fel y dywed Derek, i gwblhau’r gwaith. Cafodd Derek ei wobrwyo am ei ymdrechion, ac aeth ati i gael cyflogaeth reolaidd yn y diwydiant gwaith coed.
Yn 1989, bu Derek mewn damwain car fawr oedd yn golygu na allai weithio am gyfnod sylweddol.
Daeth Derek at CAG De Cymru fel dysgwr ym Medi 2005, ar ôl bod yn gaeth i’w gartref am flwyddyn yn dioddef gan iselder. Cychwynnodd fynychu gweithdy gwaith saer CAG yn Uned 19 yn Sandfields, Aberafan, i gael cyfle i “adael y tŷ” yn y lle cyntaf, ac ailafael yn yr hyn a arferai ei wneud. Roedd y gweithdy yn gyfle i gyfranogi mewn amgylchedd gwaith a dod yn gyfarwydd â threfn gwaith feunyddiol â chefnogaeth gan ddau diwtor oedd yn ei fentora. Ynghyd â’r sgiliau Gwaith Saer oedd yn cael eu haddysgu yno, roedd Datblygiad Personol yn cael ei gynnig hefyd, â Llythrennedd a Rhifedd mewn cyd-destun wedi’u hymgorffori yn y cwricwlwm. Canfu Derek fod y trefniadau yn hynod o gefnogol a chychwynnodd wirfoddoli ei sgiliau ei hun i gefnogi eraill, gan elwa o’r agwedd Datblygiad Personol ar yr un pryd.
Ers hynny, mae’r uned wedi symud i leoliad gwahanol yn Aberafan. Mae Derek yn dal i wirfoddoli yno 3 diwrnod yr wythnos, gan gynorthwyo i hwyluso’r addysgu a’r dysgu. Er ei fod yn dioddef gan golled cof diweddar parhaol, mae ei hyder wedi cynyddu’n anhygoel. Mae wedi dod yn aelod gwerthfawr o Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales. Hefyd, ef bellach yw Arweinydd Rhanbarthol sefydliad Cerfwyr Coed Prydain yn Ne Cymru.
Ym Mai 2011, Derek oedd cyd-enillydd Gwobr Dysgwr Hŷn y Flwyddyn NIACE Dysgu Cymru ac enillydd Gwobr Dysgwr Hŷn Castell-nedd Port Talbot.
Mae Derek wedi gwneud cyfraniad allweddol at ein helpu ni i sefydlu Cangen o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr yn Uned 10 i helpu eraill i ddod yn fwy hyderus ac annibynnol, i fod â mwy o berchnogaeth dros eu profiadau dysgu eu hunain.
Yn ôl ein Rheolwr Rhanbarthol yn Ne Orllewin a Chanolbarth Cymru, Beth John: “Mae cyfleuster ‘Uned 10’ yng Ngweithdai Heol Addison wedi bod yn le annwyl iawn gan lawer o bobl leol dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, ac mae’r digwyddiad heddiw yn dathlu’r gwaith rhagorol sydd wedi cael ei gyflawni yn y Gweithdy yn ystod y cyfnod hwnnw, ac mae hefyd yn caniatáu i ni edrych ymlaen at y dyfodol a rhannu ein cynlluniau niferus i sicrhau parhad ei lwyddiant â’r cyhoedd ehangach. Mae gan Gangen ‘Gwaith Saer i Bawb’ ac AOC/ALW berthynas waith gydweithredol ac agos, sy’n seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a chyd-barch, ynghyd â’n darpariaeth sy’n gysylltiedig ag ysgolion a’r gymuned. Yn sgil y rhaglen ailwampio sylweddol a gwblhawyd yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud, rwyf i wrth fy modd fod gennym ni gyfleuster sy’n diwallu anghenion yr holl grwpiau o randdeiliaid sy’n gweithredu yn yr Hwb, ac rwy’n edrych ymlaen at groesawu dysgwyr newydd a phresennol i’n dosbarthiadau, o ganlyniad i’r arlwy cwricwlwm estynedig sydd bellach yn ei le.”
Yn yr Hwb Dysgu, mae gan ddysgwyr anghenion amrywiol iawn: y sawl sy’n ddi-waith ers tro byd ac a fyddai’n elwa o gael cyfle a chatalydd i ailafael yn eu haddysg; y rhai sydd â phroblemau ‘llwyrddibyniaeth’; neu’r sawl sydd ag anawsterau iechyd corfforol a meddyliol. Mae hyfforddiant gwaith saer a chymorth ynghylch sgiliau hanfodol yn cynnig rhagolygon disgleiriach a gwell lles iddynt.
Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi ariannu gwaith adnewyddu helaeth yn yr Hwb. Mae hynny’n galluogi’r Gangen i barhau â’i gwaith ac adfywio ei neges ar adeg pan mae pandemig coronafeirws wedi effeithio’n sylweddol ar addysgu a dysgu.
Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol. Roedd hi’n wych gweld enghreifftiau o grefftwaith hardd y dysgwyr a chael cyfle i rannu straeon a chael clywed sut mae’r cyfleusterau wedi helpu cymaint o ddysgwyr.
Gorffennodd y digwyddiad ag arddangosiad ymarferol gwych gan ein tiwtor gwirfoddol Derek Edwards.
I weld rhagor o luniau o’r digwyddiad, cliciwch yma i droi at ein tudalen Facebook.
I gael rhagor o wybodaeth am ein Canghennau, cliciwch yma.