Ddydd Sadwrn 12fed Mawrth, aeth 18 o ddysgwyr SSIE (ESOL) Powys ac 13 plentyn, gyda Barbara Longshadow (Tiwtor ESOL) a Cecilia Forsythe (Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm Powys) ar daith i’n Hwb Dysgu ym Mhort Talbot, lle cawsant eu croesawu gan Jason Passmore (Tiwtor Gwaith Saer) a Derek Edwards (Tiwtor Cangen ‘Gwaith Saer i Bawb’) fel rhan o’n cydweithrediad parhaus rhwng Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales a’n Canghennau gwerthfawr o fewn Rhanbarth y De-orllewin a’r Canolbarth.
Ar ôl cychwyn yn gynnar am 7 y bore o’r Trallwng, cyrhaeddodd y grŵp Bort Talbot a chael Taith Dywys o amgylch y cyfleusterau Gwaith Coed, cyflwyniad ar ‘Pum Menyw sy’n Siglo’r Byd Gwaith Coed’ i ddathlu ymrwymiad y Sefydliad i ‘Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod’ a chychwyn ar drafodaeth am gerfio pren, yr offer a’r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn Saer Coed a Cherfiwr Pren.
Yn y prynhawn, teithiodd y grŵp o’r Hwb i Abertawe, lle treuliwyd y prynhawn cyfan yn mwynhau’r croeso gan staff (Curaduron a Hwyluswyr) yr Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe, un o safleoedd Amgueddfeydd Cymru. Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi ymuno mewn Partneriaeth gyda’r Amgueddfa’n ddiweddar, gyda’r Sefydliad yn darparu amrywiaeth o gyrsiau i’w staff a’r gwirfoddolwyr fynychu. Roedd yr Amgueddfa’n falch iawn o groesawu’r grŵp, a darparwyd tri Gweithdy i’r dysgwyr yn ystod y prynhawn:
‘Profiad Papur Cwyr Gwenyn’ – wedi’i hwyluso gan Guraduron a Hwyluswyr yr Amgueddfa.
‘Profiad Pyrograffeg’ – wedi’i hwyluso gan Jason Passmore a Derek Edwards.
‘Profiad Hen Wrthrychau’ – wedi’i hwyluso gan Guraduron a Hwyluswyr yr Amgueddfa.
I gloi’r diwrnod i ffwrdd mewn steil, mwynhaodd y dysgwyr y ‘Ffair Vintage’ yng ngardd yr Amgueddfa.
Cyrhaeddodd y criw nôl i’r Trallwng am 8.30 yr hwyr, gan fynegi eu bod i gyd yn awyddus i ddychwelyd i Dde Cymru, i weld mwy o’r ardal ac i ail-ymweld gyda’r Hwb a’r Amgueddfa.
Hoffem ddiolch yn fawr i’r Amgueddfa am ddarparu cinio a lluniaeth ysgafn yn rhad ac am ddim i’r holl staff a’r dysgwyr.
I weld mwy o luniau o’r digwyddiad, ewch i’n halbwm Facebook yma.
I ddarganfod mwy am ein cyfleoedd a chyrsiau, cliciwch.