Ar y 7fed Hydref 2021, dathlodd Addysg Oedolion Cymru lansiad ei ‘Hwb Dysgu Port Talbot’ yng Ngweithdai Heol Addison ym Mhort Talbot, gyda diwrnod o ymgynnull cymunedol a dathlu. Yn y 17 mis ers hynny, mae llawer wedi digwydd yn yr Hwb, o ran y cwricwlwm a thwf dysgwyr, yn ogystal â datblygiadau gyda’r Gangen ‘Gwaith Saer i Bawb’, sy’n gweithredu o’r safle. Mae partneriaethau allanol newydd wedi’u ffurfio gydag amrywiaeth o sefydliadau lleol a chenedlaethol, ac i roi blas o’r hyn sydd wedi digwydd, rydym am rannu’r diweddariad ynghyd a mewnbwn gan ein dysgwyr, sydd wedi bod yn awyddus i roi adborth am eu profiadau!
Cangen ‘Gwaith Saer i Bawb’
Mae’r aelodaeth yn parhau i dyfu’n gyflym, gyda dosbarthiadau’n cael eu cynnal am 2 ddiwrnod llawn bob wythnos, ar ddydd Llun a dydd Iau ynghyd a dwy noson yr wythnos, ar nos Fercher ac Iau. Mae aelodau’n teithio o bob rhan o’r sir a thu hwnt, i weithio ar amrywiaeth o brosiectau gwaith coed a cherfio pren, yn ogystal â dysgu am byrograffeg, a defnyddio eu sgiliau i addurno pren mewn steil llawrydd. Tra bod ‘gwaith coed, cerfio a gwaith saer’ wrth galon y ddarpariaeth yn yr Hwb, mae’r aelodau hefyd wedi bod yn awyddus iawn i ymuno gyda chyfres o ‘Weithdai Trefnu Blodau’ sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan ddenu aelodau newydd i’r Gangen fel canlyniad.
Enghreifftiau o waith Aelodau:
Dechreuodd Robert Ferris gyda’r Gangen pan gafodd ei sefydlu yn 1980, ynghyd â Trevor Cross. Ar y pryd roeddynt yn gwneud gwaith cerameg a cherfio. Mae hyn wedi disodli pysgota fel hobi. Mae Robert yn gwneud llwyau caru ac wedi eu gwerthu yn Amgueddfa Sain Ffagan:
Yn ddiweddar mae Nina Prosser wedi bod yn gweithio ar gerfiad cerfwedd, a dynnwyd o ffotograff o lowyr mewn pentref yng Nghwm Llynfi. Mae Nina’n hoffi’r broses o ‘ddatgelu’, wrth i gerfiad ddatblygu i’r hyn mae am fod – gan nad yw’n bosibl pob amser ddychmygu ar y cychwyn beth fydd canlyniad y darn. Dywed Nina: “Mae gan HDPT le arbennig iawn yn fy nghalon – rwyf wedi profi popeth gwerth ei brofi yma: cariad, colled, cyfeillgarwch a dysgu”
Dechreuodd Jacki ddod i’r Gangen tua 14 mis yn ôl, oherwydd argymhellion gan eraill. Mae wedi gwneud amrywiaeth o bethau gan gynnwys cwt adar, stand esgidiau glaw/welingtons a giât gardd. Yn ddiweddar, cyflwynodd Jacki ei ffrind Louise i’r Gangen. Maent yn dod i gymdeithasu a hefyd gan eu bod yn mwynhau gwneud gwaith coed gyda’i gilydd. Maent wedi gweld fod pawb yn cael croeso a bod parodrwydd i gynnig cymorth. Maent yn sylwi fod pawb yn gallu gwneud grwpiau o ffrindiau, waeth pwy ydynt ac o ble maent yn dod.
“Mae’n dda dod a’ch syniadau eich hun am beth i’w wneud” meddai Jacki. Mae Jacki a Louise yn nodi mae hobi yw’r sesiwn iddynt. Cyflwynodd Jacki pyrograffeg i Louise am y tro cyntaf yn ddiweddar, gyda chefnogaeth y Tiwtor Gwirfoddol a Chadeirydd y Gangen, Derek Edwards. Lluniau:
Dywed Lynn Ball, Aelod Cangen arall: “Y peth gorau wnes i erioed oedd ymuno gyda’r Hwb wedi i mi ymddeol a cholli fy ngwraig. Roedd yr hwyl a’r tynnu coes a’r cyfeillgarwch, a chael ennill gwybodaeth wedi fy arwain trwy gyfnod anodd.”
Dosbarthiadau ‘Cyswllt Ysgol’
Mae AOC yn gweithio’n agos gyda’r ‘Prosiect Cynnydd’ (a weithredir gan Gyngor CNPT) i gyflwyno cwricwlwm ‘amgen’ i ddisgyblion ym Mlynyddoedd 10 ac 11, sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau mewn gwaith saer a gwaith coed. Mae saith ysgol partner o bob rhan o’r sir yn cymryd rhan ar hyn o bryd, ac mae pob disgybl yn cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu achrededig.
‘Dosbarthiadau Cymunedol’
Mae amrywiaeth o Weithdai ‘Trefnu Blodau’, ‘Crefft’ ac ‘Arwyddluniau Cenedlaethol Cymru drwy waith Coed’ yn cael eu cynnal ar sail carwsél drwy gydol y flwyddyn, ac mae’r rhain wedi denu llawer o bobl o bob cefndir sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau ymarferol, cefnogi eu diddordebau ynghyd a’u hiechyd a llesiant cyffredinol.
Wrth edrych ymlaen, gallwn rannu ein bod ar hyn o bryd yn cynllunio datblygiadau newydd yn ein cwricwlwm, mewn meysydd pwnc megis Uwchgylchu Dodrefn a Ffasiwn, a chyn gynted ag y gallwn rannu mwy, byddwn yn rhoi gwybod i chi!
Rydym yn falch iawn o weld sut mae’r Hwb yn parhau i newid bywydau pobl, gan eu cefnogi ar amrywiaeth o deithiau personol. Os hoffech ragor o fanylion am yr Hwb, neu sut y gallwch gymryd rhan mewn dosbarthiadau cymunedol neu ymuno â’r Gangen ‘Gwaith Saer i Bawb’, cysylltwch gyda’r cydweithwyr canlynol, a fydd yn fwy na pharod i siarad gyda chi:
Ar gyfer ymholiadau Cangen ‘Gwaith Saer i Bawb’ – Mr Derek Edwards (Cadeirydd) – 07866089373
Ar gyfer ymholiadau ‘Dosbarthiadau Cymunedol’ – Staff y Swyddfa – (01639) 894927
Cliciwch yma am wybodaeth am ‘Canghennau’ Addysg Oedolion Cymru.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau ar ein tudalen Facebook.