Mae dysgwyr yng Ngogledd Powys yn “mynd yn ddigidol” ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd
Wrth symud tuag at y gwyliau hanner tymor, mae dysgwyr ledled Cymru wedi ymgartrefu ar eu cyrsiau newydd a ddarperir gan Addysg Oedolion Cymru.
Mae un cwrs yn y Trallwng, dan arweiniad Tracey Hickman sy’n Diwtor i Addysg Oedolion Cymru, wedi croesawu dysgwyr newydd o bob rhan o Ogledd Powys i wella eu sgiliau digidol.
“Cynhelir fy Nghwrs Llythrennedd Digidol mewn partneriaeth gyda Phonthafren, elusen gofrestredig sy’n darparu gwasanaeth lles, dysgu ac adferiad yng Ngogledd Powys – pob dydd Mawrth rhwng 10.00am a 12.30pm yn eu canolfan yn y Trallwng.”
“Mae’r flwyddyn academaidd newydd eisoes wedi dechrau, ond mae pob amser croeso i ddysgwyr newydd ymuno i ddysgu mewn awyrgylch gyfeillgar a hamddenol, gydag un dysgwr newydd ddechrau’r cwrs. Nid dysgu yw’r unig nod, mae’n ymwneud hefyd gyda chymysgu ag eraill, ac mae yna ymdeimlad o fod yn perthyn i deulu ar y cwrs” meddai Tracey.
Mae’r dysgwyr ar Gwrs Llythrennedd Digidol Tracey yn datblygu eu dealltwriaeth o daenlenni gan ddefnyddio Microsoft Excel ar hyn o bryd. Bydd pynciau eraill yn cael sylw yn ystod y tymor yn cynnwys prosesu geiriau, defnyddio rhaglenni, diogelwch rhyngrwyd ac ôl troed digidol.
Mae lefelau’r dysgwyr yn amrywio o Lefel Mynediad 2 i Lefel 1, ac mae croeso i ddysgwyr newydd o bob rhan o Ogledd Powys yr hoffent wella eu sgiliau digidol ymuno drwy e-bostio Tracey yn uniongyrchol ar tracey.hickman@adultlearning.wales
I ddarganfod mwy am y cyrsiau cymunedol a ddarperir gan Addysg Oedolion Cymru, cliciwch yma.