Mae cyrsiau Multiply am ddim, sydd wedi eu hariannu trwy Lywodraeth y DU trwy gyfrwng y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi ysgubo ar draws Powys a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae nifer o ddarparwyr addysg ar draws yr ardal wedi manteisio i’r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael; gan ddarparu cyrsiau Multiply ac addysgu disgyblaethau amrywiol i wella sgiliau rhifedd i oedolion.
Ymhlith y darparwyr sy’n cynnig cyrsiau yw Grŵp Colegau NPTC, sy’n darparu dosbarthiadau Rhifedd er Llwyddiant am ddim yng Nghastell-nedd Port Talbot, gall dysgwyr ymuno ar unrhyw adeg trwy gydol y flwyddyn academaidd er mwyn ennill sgiliau allweddol mewn Mathemateg mewn amgylchedd croesawgar a chynhywsol.
Mae’r prosiect hwn yn cynnig cyrsiau rhifedd hyblyg trwy ddau lwybr. Mae Llwybr 1 yn cynnwys cymwysterau lefel 2 SHC, ac mae Llwybr 2 yn canolbwyntio ar ddarparu unedau Agored ar lefel 2 gan gwmpasu 80% o’r fanyldebau TGAU. Mae’r pynciau yn cynnwys ystadegau a rhifau, algebra, graffiau, trin data a thebygolrwydd.
Os oes gennych diddordeb yn y dosbarthiadau hyn, dyma’r amseroedd a’r lleoliadau sydd ar gael ar hyn o bryd –
Bob dydd Mercher yn ein Coleg Castell-nedd, 9:30am tan 12:00pm
Bob dydd Mercher yn ein Coleg Castell-nedd , 12:30pm tan 3:00pm
Bob dydd Gwener yn y Llyfrgell ym Mhort Talbot, 9:30am tan 12:00pm
Bob dydd Gwener yn y Llyfrgell ym Mhort Talbot, 12:30pm tan 3:00pm
Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb.
Cyrsiau Mathemateg a Rhifedd Lluosi – Grŵp Colegau NPTC (nptcgroup.ac.uk)